Yn dilyn llwyddiant ein digwyddiad ar draws ffiniau CCAT cyntaf yn 2020, mae'n bleser gan dîm CCAT gyhoeddi ein hail ddigwyddiad cyfnewid gwybodaeth a rhwydweithio rhithwir, Cymunedau Arfordirol yn Addasu Gyda'n Gilydd (CCAT): Cyfnewid Gwybodaeth ac Arferion Gorau ar draws ffiniau 2021, i’w gynnal ar foreau 19th, 20th a 21st Hydref 2021. Yn ystod y digwyddiad y llynedd, bûm yn trafod bod cymunedau arfordirol ar flaen y gad gydag effeithiau newid yn yr hinsawdd, addasu, gwytnwch a phenderfyniadau a chynllunio rheoli arfordiroedd cysylltiedig.
Drwy CCAT, rydym wedi bod yn gweithio i gefnogi cymunedau arfordirol yn Sir Benfro (Cymru) a Fingal (Dulyn) i ddeall effaith newid yn yr hinsawdd, a sut y gallai effeithio ar eu cymunedau lleol.
Gan dynnu ar adborth o'n digwyddiad cyntaf, rydym yn cydnabod bod angen trafod hyn yn bellach - mae cyfleoedd i ddysgu o'r hyn y mae eraill yn ei wneud, ac i adeiladu ar arferion gorau sy’n bodoli mewn polisi a rheoli, ar gyfer rheoli arfordiroedd a newid yn yr hinsawdd. Trwy'r ail ddigwyddiad rhithwir hwn, a gyd-drefnir gan Brifysgol Caerdydd a'r tîm CCAT ehangach, byddwn yn dod ag ystod amrywiol o ymarferwyr ac academyddion ynghyd, gydag arbenigedd mewn llunio polisïau, rheoli arfordiroedd, addasu i’r newid yn yr hinsawdd, ymgysylltu â'r gymuned a mwy. Yn ystod y digwyddiad, byddwn yn croesawu siaradwyr sy'n cyflwyno ar ystod eang o bynciau gan gynnwys: Enghreifftiau o astudiaethau achos, Myfyrdodau gan gymunedau sy'n profi effeithiau newid yn yr hinsawdd ar hyn o bryd, Mentrau ar raddfa gymunedol, ac ymgysylltu â’r gymuned ynghylch rheolaeth arfordiroedd ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd Enghreifftiau o atebion sy'n seiliedig ar natur ar waith, Astudiaethau achos o bob rhan o'r DU, Iwerddon, yn ogystal ag enghreifftiau rhyngwladol eraill. Rôl Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) wrth addasu a gwytnwch newid yn yr hinsawdd, ac yn olaf, arddangos y gwaith a wnaed trwy'r prosiect CCAT. Siaradwyr wedi'u cadarnhau
- Project Seagrass
- Hinsawdd Iwerddon
- Ardal Forol Doc Penfro
- Canolfan Monitro Arfordirol Cymru
- Dr Verity Jones (University of East Anglia)
- Dr Cormac Walsh (Independent Consultant)
- Caroline Hickman (University of Bath)
- Professor Robin McInnes
I archebu cliciwch yma