Mae gwaith CCAT wedi cael sylw mewn podlediadau diweddar. Siaradodd Dr Emma McKinley o Brifysgol Caerdydd am y cysylltiadau rhwng pobl a’u harfordir lleol mewn podlediad diweddar “Talk of the Themes” sef cyfres podlediad gan Bartneriaeth Aber Afon Tafwys..
Gallwch chi glywed y podlediad yma

Fe ymddangosodd Alex Cameron-Smith o Fforwm Arfordir Sir Benfro yng nghyfres podlediad newydd gyntaf Fforwm Arfordir Sir Benfro. Mi siaradodd am greu offer ymgysylltu digidol ar-lein CCAT a sut maen nhw'n cefnogi cymunedau lleol yng Nghymru i siarad am eu pryderon mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd. Gallwch chi glywed y podlediad yma
