Cyfarfod Partneriaid CCAT

screen shot of team

Oherwydd COVID-19 cynhaliodd CCAT gyfarfod chwe-misol arall ar-lein dros 3 bore ar 9th, 10th ac 11th Mawrth 2021. Dechreuon ni bob bore gyda gêm hwyliog, ryngweithiol i ysgogi ysbryd cystadleuol pawb. Ar y diwrnod cyntaf cawsom gyfle i gyflwyno ein cynnydd i'r grŵp cynghori a chael eu hadborth. Fe wnaethom hefyd gynnal gweithdy i edrych ar gyfleoedd i fynd ar drywydd llwyddiant ein digwyddiad Cyfnewid Gwybodaeth ac Arferion Gorau ar Draws Ffiniau a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2020.

Ar ddiwrnod dau fe wnaeth y tîm roi cyflwyniad ar ddau brosiect mapio cyfranogol yng Nghymru. Y prosiect cyntaf oedd partneriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i fapio effeithiau newid hinsawdd ar ardal ar Arfordir Sir Benfro ac roedd y prosiect arall ym Mhorthladd Aberdaugleddau yn mapio nodweddion treftadaeth yn Noc Penfro. Fel rhan o'n gwaith mewn realiti rhithwir ac estynedig, aeth y tîm ar daith rithwir o amgylch un o'n hardaloedd astudiaeth achos a mynd i gyfarfod realiti rhithwir.

virtual tour of Portrane

Roeddem wedi gwahodd rhai siaradwyr gwadd i ddod i'n digwyddiad a siaradodd yr Athro Brian Orland am Realiti estynedig, adrodd straeon, a materion newid hinsawdd ar yr arfordir. Clywsom gan Paul O'Raw a siaradodd am Ymgysylltu â'r gymuned mewn cynllunio lleol yn Asdee, Gogledd Kerry bu Deborah Tiernan, Swyddog Bioamrywiaeth o Gyngor Sir Fingal yn siarad am Fioamrywiaeth ac ymgysylltu â'r gymuned ac yn olaf siaradodd Kevin Halpenny Prif Uwch-arolygydd Parciau, Cyngor Sir Fingal am Esblygiad Grŵp Cydlynu Arfordirol Fingal..

Ar ein diwrnod olaf daeth cyfres o siaradwyr gwadd i siarad â ni am gyfleoedd cyllido gwahanol i sefydliadau yng Nghymru ac yn Iwerddon. Gan mai’r cyfarfod nesaf ym mis Hydref 2021 fydd ein cyfarfod olaf, rydym yn dechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol ar ôl CCAT.

+ posts