Mae CCAT wedi creu taith maes rithwir i Draeth Amroth yn Sir Benfro. Bydd y daith yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o'r heriau sy'n wynebu Amroth oherwydd newid hinsawdd.
Mae'r daith yn defnyddio cwisiau a mapiau rhyngweithiol i dywys myfyrwyr drwy hanes yr ardal, y newid yn yr hinsawdd a’r cynnydd yn lefel y môr yn ogystal ag ymarferion ar fesur a mapio'r ardal.
Mae Amroth yn lleoliad gwych ar gyfer y daith maes hon gan fod llifogydd ac erydiad arfordirol wedi effeithio arni. Mae ganddi hanes cyfoethog ac roedd unwaith yn ardal lofaol. Mae'r draethlin yn darparu tystiolaeth wych o 5,000 o flynyddoedd yn ôl pan oedd lefelau'r môr yn wahanol iawn.
Cliciwch i fynd ar eich taith rithwir yma