Cardiau Newid yn yr Hinsawdd i Ysgolion

climate change card

Mae CCAT wedi creu adnodd ar-lein ar gyfer grwpiau cymunedol ac ysgolion uwchradd i ategu trafodaethau ynghylch newid yn yr hinsawdd. Mae'r cardiau'n hwyluso sgwrs strwythuredig i nodi newidiadau y mae pobl wedi sylwi arnynt yn eu hardal leol oherwydd newid yn yr hinsawdd, effaith y newidiadau hyn, y camau y mae angen eu cymryd a’r bobl sy'n gyfrifol am gymryd y camau hyn.

Mae pedwar categori gwahanol i’r cardiau hyn:Newidiadau, Effeithiau, Camau Gweithredu a PhoblMae gan y cardiau eicon trawiadol ar un ochr a data sy'n ymwneud â'r eicon ar yr ochr arall. Mae’r cardiau’n defnyddio lliwiau i adlewyrchu’r pwnc, ac mae'r testun yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Pecyn gweithgareddau i ysgolion  Saesneg / Cymraeg

O ganlyniad i COVID-19, addaswyd y cardiau i'w defnyddio ar-lein, a chawsant eu defnyddio gyda grwpiau cymunedol yng Nghymru.

Gallwch weld y cardiau a ddefnyddiwyd gyda grwpiau cymunedol yma

If you would like any more information, assistance with using the cards or to arrange a training workshop, please email Alex Cameron-Smith alex.cameron-smith@pembrokeshirecoastalforum.org.uk

This work is licensed under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 International License 

+ posts