Mae ymchwilydd CCAT, Dr Fernanda Stori wedi cyhoeddi adnodd ar-lein sy'n dwyn ynghyd yr amrywiol ddeddfwriaethau, polisïau a chynlluniau sy'n ymwneud ag ymaddasu i newid hinsawdd yn Iwerddon er 1925. Mae'r astudiaeth yn edrych ar esblygiad deddfwriaeth, polisïau a chynlluniau ymaddasu i newid hinsawdd arfordirol ar lefel leol yn Fingal yn ogystal ag ar lefel ranbarthol a chenedlaethol yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae'r adnodd hwn yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr i'r rheini sydd â diddordeb mewn ymaddasu i newid hinsawdd ar hyd arfordir Iwerddon.
Mae hi hefyd wedi cynhyrchu astudiaeth fanwl ar gyfer Cyngor Sir Fingal ar effaith newid hinsawdd yn Portrane, Swydd Dulyn, a fydd yn cefnogi'r cyngor a'r preswylwyr i gynllunio ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â lefelau'r môr yn codi ac amlder a dwyster cynyddol stormydd oherwydd newid hinsawdd.
Dangosodd yr astudiaeth angen brys i fynd i'r afael â bwlch mewn polisi sy'n ymwneud â rheoli’r arfordir ac ymaddasu i newid hinsawdd yn Iwerddon. Mae'r bwlch hwn wedi gosod heriau i gymunedau arfordirol ac awdurdodau lleol yn Iwerddon wrth ddelio ag effeithiau erydiad arfordirol a llifogydd.
Mae'r diagram isod yn dangos y dogfennau a adolygwyd ar gyfer yr astudiaeth hon.

Mae'r adnodd ar-lein yma
Mae'r adroddiad llawn yma