Fe wnaeth CCAT lansio Cymunedau Arfordirol yn Tyfu Gyda’i Gilydd yn ddiweddar ar gyfer ysgolion, grwpiau cymunedol a chynghorau ar hyd Dyfrffordd Aberdaugleddau. Rhoddwyd coed i’r grwpiau hyn yn rhad ac am ddim yn ogystal â chanllawiau a chefnogaeth ynghylch dewis y coed, eu plannu a’u cynnal. Ymunodd CCAT ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a Thir Coed a roddodd eu gwybodaeth a'u harbenigedd i gyflwyno'r prosiect partneriaeth hwn yn ogystal â chefnogaeth ymarferol gydag agweddau ymarferol ar blannu coed.

Rhoddodd y prosiect gyfle addysg yn yr awyr agored i ysgolion, a bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn dysgu am sut i ddewis coed priodol a’u cynnal yn ogystal â chael dealltwriaeth ddyfnach o sut i ofalu amdanynt er mwyn iddynt oroesi a chwarae rôl barhaus yn y frwydr i adfer yr hinsawdd am genedlaethau i ddod.