Cynhaliodd Coleg Sir Benfro digwyddiad Yrfaoedd STEM yn Maes Ynni Morol am ysgolion uwchradd lleol a’r coleg, ar 11eg Mawrth.
Trefnwyd y digwyddiad mewn partneriaeth â Coleg Sir Benfro, Porthladd Aberdaugleddau, y Prosiect CCAT (Coastal Communities Adapting Together), Fforwm Arfordirol Sir Benfro, Mainstay Marine, Bombora, ORE Catapult, Canolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy (Prifysgol Abertawe), a’r Prosiect Bucanier.
Gyda datblygiadau cyffrous ar fin digwydd o fewn ynni morol yn Sir Benfro, pwrpas y digwyddiad oedd i gyflwyno gyrfaoedd newydd posib mewn ynni morol (yn lleol ac yn fyd-eang) i 70 disgyblion STEM, o’r coleg ag ysgolion yn Sir Benfro, yn hau yr hadau o datblygiad ac adfywio lleol.
Gwahoddwyd disgyblion o Ysgol Harri Tudur a myfyrwyr peirianneg o Coleg Sir Benfro i fynychu’r digwyddiad, a welodd Canolfan Arloesedd y Bont yn Doc Penfro wedi trawsnewid i fewn i gyfres o fannau gweithdy rhynweithol.

Agorwyd y digwyddiad gan David Jones, P.S.G Fforwm Arfordirol Sir Benfro, ag Andy Edwards, Is-Gadeirydd Porthladd Aberdaugleddau, gan gosod yr olygfa o amgylch gyrfaoedd y presennol a’r dyfodol mewn ynni morol. Arwainwyd gweithdai rhyngweithiol gan datblygwyr ynni morol lleol; Bombora Wave Power; Mainstay Marine Solutions; Pembrokeshire Coastal Forum a Phrifysgol Abertawe.

Nid oedd gan lawer o fyfyrwyr dealltwriaeth dda o’r arloesedd sy’n digwydd yn ddyfrffordd yr hafan, felly yr oeddent yn awyddus i gymryd rhan yn y gweithdai cysylltiedig gan gynnwys yn cael eu herio i adeiladu platform twrbin gwynt arnofiol eu rhai eu hunain, yn erbyn amser.

Lansiwyd y Canllaw i Yrfaoedd ym Maes Ynni Morol Newydd yn y digwyddiad hefyd. Datblygwyd y canllaw mewn cydweithrediad â sawl datblygwyr ynni morol a’r gadwyn gyflenwi lleol, fel cyflwyniad i’r diwydiant a’r gyrfaoedd posib o’i fewn. Fe fydd fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r canllaw ar gael i sefydliadau dysgu lleol ac ar lein fel adnodd dysgu.

O’r Chwith i’r Dde David Jones P.S.G Fforwm Arfordirol Sir Benfro, Claire Lawrence, Technegydd ym Mhorthladd Aberdaugleddau, ag Andy Edwards, Is-Gadeirydd Porthladd Aberdaugleddau.