Côd Amgylcheddol

Côd Amgylcheddol CCAT

Mae cynaliadwyedd amgylcheddol yn elfen ganolog o’n gwaith. Mae’r holl bartneriaid yn cofleidio egwyddorion cynaliadwyedd drwy atal gwastraff, ei leihau, ei atgyweirio a’i ailddefnyddio lle bo modd.


Hefyd, rydym yn blaenoriaethu cynaliadwyedd yn y meysydd canlynol:

Cludiant

  • Osgoi hedfan ar draws y ffin
  • Blaenoriaethu’r defnydd o gludiant cyhoeddus ar gyfer teithio ar draws ffiniau
  • Blaenoriaethu a hyrwyddo cludiant cyhoeddus a seiclo er mwyn cymudo i’r gwaith, ymgysylltu â chymunedau a mynd i ddigwyddiadau
  • Defnyddio cynlluniau rhannu ceir lle nad yw’n bosib defnyddio cludiant cyhoeddus neu seiclo
  • Rhentu ceir trydan lle bo’n bosibl
  • Blaenoriaethu cyfleusterau fideo-gynadledda yn lle cyfarfodydd wyneb yn wyneb

Amgylchedd y swyddfa

  • Defnyddio caledwedd bresennol (ffonau symudol, tabledi) lle bo’n ymarferol
  • Hyrwyddo swyddfeydd dibapur
  • Blaenoriaethu penderfyniadau prynu ar sail pecynnu cynnil / dim pecynnu
  • Gwahanu’r holl wastraff rhag deunyddiau i’w hailgylchu

Prynu

  • Blaenoriaethu prynu cynhyrchion sydd wedi’u hailddefnyddio / ailgylchu / uwchgylchu
  • Blaenoriaethu cynhyrchion y gellir eu dadgydosod / ailddefnyddio / ailgylchu’n lleol
  • Blaenoriaethu gwasanaethau arlwyo sy’n defnyddio cynhyrchion lleol, heb ei brosesu, amrywiaeth o opsiynau llysieuol, cardfwrdd eu deunydd pecynnu
  • Blaenoriaethu’r defnydd o gwpanau amlddefnydd a’u hyrwyddo

Dŵr

  • Ymlynu wrth arferion gorau o ran arbed dŵr ym mhob gweithle
  • Osgoi cynnig dŵr mewn poteli plastig untro mewn digwyddiadau
  • Hyrwyddo’r defnydd o boteli dŵr amlddefnydd a chynnig cyflenwad dŵr yfed ym mhob digwyddiad
  • Blaenoriaethu lleoliadau sydd â nodweddion arbed dŵr ar waith i gynnal digwyddiadau

Egni

  • Blaenoriaethu lleoliadau sy’n dangos arferion gorau o ran dyluniad ynni-effeithlon a/neu cyfuno ynni adnewyddadwy i gynnal digwyddiadau
  • Ymlynu wrth fesurau effeithlonrwydd ynni ac arferion gorau ym mhob gweithle

Bioamrywiaeth

  • Dylai pob taith faes wneud ymdrech ymwybodol i hyrwyddo bioamrywiaeth heb andwyo ar unrhyw ardaloedd sensitif
  • Dylai’r holl seilwaith/osodiadau fod yn gynnil, heb effeithio ar fioamrywiaeth

Codi Ymwybyddiaeth

  • Gwella gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth o effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ac ymaddasu iddo drwy ddatblygu offer ac adnoddau dysgu er mwyn i ddinasyddion arsylwi eu hamgylchedd, dehongli eu canfyddiadau a chreu ffyrdd newydd o ymaddasu ar y cyd

Saith Nod Llesiant

Bydd y partneriaid Cymreig yn hyrwyddo Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) Llywodraeth Cymru ac yn bwriadu arddangos bod bob gweithgaredd yn cyfrannu at y saith nod llesiant canlynol