Mae prosiect CCAT am recriwtio intern rhan-amser sydd â phrofiad ym maes pyrth data agored GIS a llywodraeth leol ee Data Agored Fingal, Porth-Daear Lle, am gyfnod o 3 mis.
Mae'r interniaeth yn swydd ran-amser, 14 awr yr wythnos (tua 2 ddiwrnod) a bydd yn canolbwyntio ar greu tri model cyntaf Fframwaith Geoddylunio (Steinitz, 2012). Ymgais yw hon i gasglu gwybodaeth i gefnogi’r gwaith o ddylunio dewisiadau amgen gwybodus a chynaliadwy mewn astudiaeth geoddylunio. Mae proses 6 cham y fframwaith geoddylunio yn cynnwys paratoi data a mapiau a gweithdy.
Y prif dasgau fydd:
• Adeiladu prosiect GIS sy’n ategu Gwybodaeth Ddaearyddol Awdurdodol (ee Data Agored Fingal, Porth-Daear Lle) gyda Chynnwys a Gynhyrchir gan Ddefnyddwyr (e.e. Open Street Map, Flickr, prosiectau mapio cyfranogol, holiaduron) i ddisgrifio dynameg tiriogaethol barhaus yn ardal yr astudiaeth, nodi diddordebau ac anghenion defnyddwyr, a diffinio'r prif daflwybrau datblygu lleol / is-systemau tiriogaethol; • Cymhwyso, mewn cyd-destun GIS, technegau sefydledig o droshaenu gofodol sy’n seiliedig ar nifer o feini prawf a dadansoddiad cyfuniadol ar gyfer y data gofodol aml-ffynhonnell a gasglwyd yn flaenorol. Canlyniad y broses hon yw set o fapiau gwerthuso sy'n nodi lleoliadau o ddiddordeb neu feysydd nad ydynt yn briodol ar gyfer strategaethau datblygu yn y dyfodol mewn perthynas ag is-system diriogaethol benodol (e.e. twristiaeth, seilwaith gwyrdd, ac ati). • Helpu i drefnu gweithdai geoddylunio sy’n cynnwys y gymuned leol yn ardaloedd astudio CCAT. • Helpu i greu compendiwm o arferion gorau ym meysydd geoddylunio fel dull gwerthfawr o reoli’r arfordir.
- Bydd yr intern yn ennill profiad gwerthfawr yn y meysydd canlynol: • Cyfleoedd gyda Chynnwys a Gynhyrchir gan Ddefnyddwyr mewn prosesau (geo)ddylunio • Dadansoddi Addasrwydd Tiroedd a Dadansoddiadau Cyfuniadol yn seiliedig ar nifer o feini prawf • Dulliau a thechnegau geoddylunio
mae'r cais am y swydd hon bellach ar gau