Dechreuais fy ngyrfa yn addysgu cyn canolbwyntio ar bartneriaethau busnes-addysg a materion ehangach yn ymwneud â chynaliadwyedd corfforaethol yn gweithio i Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, yr Adran Masnach a Diwydiant a Busnes yn y Gymuned.
Cefais OBE ym 1995 am helpu i sefydlu cysylltiadau rhwng busnes ac addysg o dan Enterprise Initiative DTI. Roeddwn yn Rheolwr Gyfarwyddwr yn Business in the Community UK rhwng 1995 a 2005. Dychwelais adref i Gymru yn 2005 a chefais fy mhenodi’n Gomisiynydd Cymru ac yn Is-gadeirydd Comisiwn Datblygu Cynaliadwy’r DU, gan roi cyngor annibynnol i Lywodraethau Cymru a’r DU.
Ar ôl i Gomisiwn y DU gau, cefais fy mhenodi gan Lywodraeth Cymru yn Gomisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ym mis Ebrill 2011. Chwaraeais ran flaenllaw yn natblygiad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), yn enwedig trwy arwain y sgwrs genedlaethol ar “Y Gymru a Garem”. Fe wnes i roi'r gorau i'r rôl hon ym mis Mawrth 2016 pan benodwyd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol fel y'i sefydlwyd gan y Ddeddf. Cefais fy mhenodi hefyd i fod yn gadeirydd annibynnol cyntaf Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn 2011, a bues yn y rôl hon hyd at fis Mawrth 2016.
Rydw i wedi ymgymryd ag ystod o brosiectau ymgynghori er 2005 gan gynnwys fel ymgynghorydd i Elusennau'r Tywysog yng Nghymru ac i raglen ymchwil cyfrifoldeb corfforaethol Canolfan Moeseg St James yn Awstralia.
Bûm yn chwarae rhan flaenllaw yn sefydlu'r Sefydliad Cynaliadwyedd ac Effeithiolrwydd Adnoddau (INSPIRE) ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, lle mae gen i rôl gysylltiedig fel Athro Ymarfer. Mae fy mhortffolio prosiectau presennol bellach yn canolbwyntio ar weithio i gefnogi cymunedau, dinasyddion a defnyddwyr. Mae'n cynnwys ystod o rolau llywodraethu – cadeirio Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Grŵp Cefnogi Cwsmeriaid Dŵr Cymru ac elusen Size of Wales; bod yn Gyfarwyddwr Ynni Cymunedol Sir Benfro: aelod o Fwrdd BT Cymru, Ceidwad Cymunedol ar gyfer y prosiect cyffrous iawn River Simple; yn ymddiriedolwr yn y Sefydliad Democratiaeth a Datblygu Cynaliadwy ac fy rôl Gysylltiol fel Athro Ymarfer gyda Phrifysgol y Drindod Dewi Sant. Roedd yn anrhydedd derbyn CBE am gyfraniad fy ngwaith at ddatblygiad cynaliadwy ym mis Mehefin 2016.
A lGellir gweld datganiad hwy yma