
Dr. Rhoda Ballinger
Reader, School of Earth and Ocean Sciences, Cardiff University
Cafodd Rhoda radd mewn Daearyddiaeth a PhD yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar hyn o bryd, mae’n arweinydd thema ar gyfer rhaglenni Daearyddiaeth yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r MôrPrifysgol Caerdydd, a Chyfarwyddwr rhaglen Daearyddiaeth Forol yr Ysgol. Mae ganddi dros ugain mlynedd o brofiad o addysgu am agweddau ar reolaeth arfordirol yn Ewrop ac ymchwilio iddynt, yn ogystal â phrofiad ymarferol o reoli morydau, yn arbennig drwy Bartneriaeth Aber Hafren. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar integreiddio gwyddoniaeth a pholisïau yn ogystal ag ar ddadansoddi rhanddeiliaid a pholisïau yng nghyd-destun newid arfordirol. Mae prosiectau diweddar yn cynnwys IMCORE, RESILCOAST a COASTWEB yn ogystal â phrosiectau graddfa lai ar gyfer Llywodraeth Cymru a phobl eraill ynghylch cynllunio morol. Yn rhan o lawer o’r prosiectau cymhwysol, rhyngddisgyblaethol, mae hi wedi gweithio’n helaeth gyda rhanddeiliaid arfordirol i ddatblygu ystod o ddeunyddiau hyfforddiant.