Chyngor Sir Fingal

Photo of Kevin J Halpenny

Kevin J. Halpenny

Prif Uwcharolygydd Parciau

Mae Kevin yn gweithio gyda Chyngor Sir Fingal fel Prif Uwcharolygydd Parciau’r awdurdod lleol. Mae hefyd yn Gadeirydd Grŵp Cydlynu Arfordirol Fingal sy’n cynnig fforwm i grwpiau’r gymuned leol a chynghorwyr etholedig sy’n bryderus ynghylch rheolaeth arfordirol. Kevin yw Llywydd presennol Sefydliad Tirlunio Iwerddon sef y corff proffesiynol sy’n cynrychioli Penseiri Tirlunio yn Iwerddon. Ar ben hynny, mae’n Gadeirydd Pwyllgor Ewropeaidd Parciau Trefol y Byd sef corff rhyngwladol sy’n cynrychioli gweithwyr proffesiynol parciau.

Mae gyrfa Kevin fel Pensaer Tirlunio a Pheiriannydd Amgylcheddol yn rhychwantu 35 mlynedd o weithio’n bennaf ym myd llywodraeth leol yn Iwerddon a’r DU. Yn ei waith, mae Kevin wedi bod yn gyfrifol am gyflwyno mentrau a strategaethau polisïau ynghylch Cynllunio Seilwaith Gwyrdd, ei Reoli a Hyrwyddo Iechyd. Hefyd, mae wedi rheoli prosiectau cyfalafol mawr ynghylch adfer tirweddau hanesyddol, seilwaith trafnidiaeth a datblygu parciau newydd, cyfleusterau chwaraeon a mannau gwyrdd trefol. Mae Kevin yn eiriolydd cryf dros fioamrywiaeth drefol a defnyddio Systemau Ecosystem ac Atebion Seiliedig ar Natur i fynd i’r afael â llawer o heriau trefoli cynyddol.

Saul Crowley

Saul Crowley

Gwyddonydd Ymchwil

Mae Saul yn Wyddonydd Ymchwil gyda Chyngor Sir Fingal. Mae'n hanu o arfordir gwyllt yr Iwerydd yn Galway ond treuliodd y rhan fwyaf o'i amser yn astudio ac yn gweithio yn y DU lle cymhwysodd fel archeolegydd yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Yna gweithiodd Saul mewn swyddi yn Amgueddfa Llundain, y Llyfrgell Brydeinig ac Ymddiriedolaeth Wellcome. 

Gyda chefndir mewn Astudiaethau Treftadaeth, mae ymchwil Saul yn canolbwyntio ar wella canfyddiadau’r cyhoedd o’r amgylchedd naturiol ac adeiledig ar draws amser a lle. Ar ôl gweithio ar draws nifer o amgueddfeydd a sefydliadau diwylliannol, mae Saul yn frwdfrydig am ddod â phob ffurf o dreftadaeth yn ôl i'r gymuned.