Fforwm Arfordirol Sir Benfro

Tim brew

Tim Brew

Rheolwr Addysg

Cymhwysodd Tim yn athro Mathemateg a Gwyddoniaeth yng Ngholeg Sain Luc, Prifysgol Caerwysg. Aeth ati wedyn i addysgu mewn ysgolion uwchradd yn Sir Benfro am dros 10 mlynedd. Wedi hynny, fe gynhaliodd y rhaglen addysg dros Ganolfan Eco Cymru, gan ddatblygu adnoddau arloesol am y newid yn yr hinsawdd ac ynni, ar gyfer dysgwyr o bob oedran. O 2013 ymlaen, cynhaliodd ei fusnes ei hun oedd yn canolbwyntio ar addysg ac ynni. Ymunodd Tim â’r tîm yn 2017 i gyflwyno’r Cwricwlwm Arfordirol ac i ddatblygu adnoddau addysgiadol i gefnogi prosiectau Fforwm Arfordirol Sir Benfro. Yn ei amser rhydd, mae Tim yn mwynhau dringo, caiacio a threulio amser ar y traeth gyda’i deulu

Alex Cameron - Smith

Alex Cameron-Smith

Cydlynydd Ymgysylltu Cymunedol dros y Newid yn yr Hinsawdd

Cafodd Alex ei geni yn Llundain, ond wrth chwarae mewn coedwigoedd a pharciau yn ystod ei phlentyndod, datblygodd gariad dwys at yr awyr agored a natur. O ganlyniad, cyflawnodd radd mewn Sŵoleg, treulio blwyddyn i ffwrdd yn crwydro Awstralia a Seland Newydd, cyn gwneud MSc mewn Adfer Rhywogaethau mewn Perygl a Chadwraeth. Mae Alex wedi cael gyrfa amrywiol, gan weithio i lawer o elusennau a sefydliadau nid-er-elw, o reoli partneriaid ym mhlatfform datgelu newid hinsoddol byd-eang yn Llundain i anturiaethau cydlynu ar gyfer cwmni bach ym Mryste.

A hithau’n angerddol dros gysylltu pobl â’u hamgylchedd, symudodd i Sir Benfro yn haf 2019 i weithio fel tywysydd awyr agored a syrthiodd mewn cariad â’r arfordir. Felly, symudodd i ymuno â’r tîm i weithio gyda chymunedau lleol i’w helpu i ymaddasu i effeithiau anochel y newid yn yr hinsawdd. Y tu allan i’r gwaith, mae Alex i’w gweld yn dringo clogwyni, yn loncian neu’n hela am drysor ar gildraethau.

Jetske Garming

Jetske Germing

Rheolwr Cyflwyno a Datblygu Busnes

Mae Jetske yn frwd dros yr awyr agored, a symudodd i Sir Benfro dros ddau ddegawd yn ôl i dreulio cymaint o amser â phosibl ar yr arfordir. Mae gan Jetske MA mewn Rheoli Twristiaeth Ewropeaidd, ac wedi gweithio ar brosiectau ynghylch twristiaeth gynaliadwy, datblygu cynaliadwyedd cymunedol, a phrosiectau rhyngwladol fel Partneriaeth y Llywodraeth Agored. Open Government Partnership.

Mae ei rôl yn Fforwm Arfordirol Sir Benfro’n ymwneud â’r holl raglenni – addysg, hamdden gynaliadwy, ymgysylltu dros y newid yn yr hinsawdd, gwaith rhanddeiliaid ac ynni morol. Mae ei rôl yn cysylltu ei diddordebau mewn datblygu cynaliadwy a chymunedau â sgiliau cynllunio a threfnu a’r rhwydweithiau y mae hi wedi’u sefydlu drwy gydol ei gyrfa, o ddatblygu’r portffolio cyllid, i ystyried cyfleoedd, rhwydweithio â phartneriaid a datblygu strategaeth a systemau PCF a’u rhoi ar waith. Fel Cynrychiolwr Rhanbarthol Gwirfoddol dros Surfers Against Sewage, mae Jetske’n trefnu sesiynau glanhau traeth ac yn ymgyrchu yn erbyn Ysbwriel Morol, er mwyn cael môr glanach. Surfers Against Sewage Jetske organises regular beach cleans and campaigns against Marine Litter, to protect waves and for cleaner seas.