Phorthladd Aberdaugleddau

Photo of Lauren Blacklaw-Jones

Lauren Blacklaw-Jones

Cydlynydd Cyfarthrebu ag Ymgysylltu Cymunedol

Mae Lauren wedi preswylio’n Sir Benfro ei holl bywyd, gyda brwydfrydedd arbennig am diwylliant, treftadaeth ac adfywio yn y sir. Yn brofiadol yn rheoli prosiectau fach, logisteg, digwyddiadau, rheoli gwirfyddolwir ag ymgysylltu cymunedol, mae Lauren wedi gweithio mewn busnesau lleol, presiectau cymunedol ag elusennau di-elw cenedlaethol.

Mae erengraiffau diweddar yn cynnwys gweithredu strategaeth ymgysylltu cymunedol yn hyrwyddo newidiadau i wasanaethau gwastraff ag yn cynyddu ailgylchu mewn ardaloedd ymgysylltu isel; goruchwilio gweinyddiaeth prosiect datblygu cymunedol uchelgeisiol; rheoli prosiect gwirfyddoli yn darparu profiad a chyfleoedd i 16-24 oed yn y celfyddydau.

Gyda ffocws ar prosiectau datblygu cymunedol arloesol ag addasu, twf ag adfywio, nod Lauren ydi i maethu amgylchedd cymdeithasol ac economaidd ffynianus i preswylwyr Sir Benfro ag ymwelwyr, gan uchafu effaithiau cyfleoedd lleol unigryw a ddatblygiadau cynaliadwy.

Mae ei chefndir amriwiol yn cynnwys profiad ychwanegol mewn gwisg theatre a ffilm, ‘sgryfennu a golygy sgriptiau ddwyieithog. Mae hi’n siaradwr Cymraeg rhugl a siaradwr Spaeneg cymedrol, gyda chysylltiadau teuluol gruf a’r Ariannin. Allan o waith gellir ei darganfod wrth y môr, ar y llwybr arfordirol neu yn gwirfyddoli ar prosiectau lleol cymmunedol a chelfyddydol.

Photo of Stella Hooper

Stella Hooper

Rheolwr Cyllid Allanol

Mae Stella wedi bod yn Rheolwr Cyllid Allanol i Port ers 2013. Mae’n gweithio gyda chydweithwyr er mwyn sicrhau arian grant sy’n cyd-fynd â nodau ac amcanion corfforaethol. Ar ôl ennill y grantiau, mae’n cynorthwyo gyda gwaith rheoli prosiectau drwy helpu i wneud yn siŵr eu bod yn cydymffurfio ag amodau’r grant. Mae Stella yn gynrychiolydd amgylcheddol yn Port hefyd ac mae’n awyddus i godi ymwybyddiaeth o’r ffyrdd y gallwn chwarae ein rhan er lles yr amgylchedd.  

Y tu allan i fyd gwaith, mae Stella yn rhannu ei hamser rhwng ei rôl fel Cynghorydd Tref yn yr Hwlffordd lle mae’n byw, a’i diddordebau eraill. Mae’r rhain yn cynnwys yr ochr ysbrydol o fywyd, garddio, yn enwedig tyfu o hadau a thyfu llysiau organig yn ei rhandir. Mae’n hoff iawn o fwyd a gwin da ac yn mwynhau rhoi cynnig ar ryseitiau newydd o’r llu o lyfrau coginio y mae wedi’u prynu dros y blynyddoedd.   

Photo of Anna Malloy

Anna Malloy

Rheolwr Ymgysylltu a Chyfathrebu â Rhanddeiliaid

Ganwyd Anna yn Sir Benfro ac ar ôl cwblhau gradd mewn Rheoli Busnes ym Mhrifysgol Abertawe yn 2000, dychwelodd i’w thref genedigol, Aberdaugleddau, i ddechrau ei gyrfa. Llwyddodd Anna i gael lleoliad gwaith i raddedigion gyda chwmni lleol cyn symud i Dun Laoghaire, Dulyn, i fod yn Gynorthwy-ydd Marchnata i Cork International. 

Yn 2002, dychwelodd i Sir Benfro i ddechrau teulu a gweithio yng Ngholeg Sir Benfro. Yn 2007, ymunodd Anna â Port of Milford Haven fel Cynorthwy-ydd Marchnata. Ers hynny, mae ei gyrfa yno wedi mynd o nerth i nerth, a dechreuodd swydd reoli yn 2015. Mae gan Anna rôl allweddol yng nghyfarfodydd Pwyllgor Atebolrwydd Rhanddeiliaid y cwmni ac mae wedi arwain nifer o fentrau ymgysylltu gyda’r cymysgedd eang o randdeiliaid sy’n gysylltiedig â Port. Mae cyfrifoldebau Anna yn cynnwys cysylltiadau â'r cyfryngau, ymateb mewn argyfwng a materion cyhoeddus. Y tu allan i fyd gwaith, mae Anna yn mwynhau treulio amser gyda’i theulu a chadw’n heini.   

Photo of Jonathan Monk

Jonathan Monk

Rheolwr Amgylcheddol

Dechreuodd Jonathan ei yrfa gyda gradd mewn Daeareg o Brifysgol Durham, gan weithio i ymgynghoriaeth amgylcheddol ar waith mawr o adfer safleoedd diwydiannol. Sbardunwyd ei ddiddordeb mewn porthladdoedd a'r sector morol gan brosiect i ddatblygu cyfleuster ailgylchu llongau ar raddfa fawr a chanolfan gwasanaeth llwyfan olew ar Aber Afon Tees. Ymunodd ag Able UK, sef cwmni datblygu porthladdoedd, fel arbenigwr amgylcheddol mewnol a gweithiodd ar amrywiaeth o brosiectau datblygu porthladdoedd a phrosiectau sy'n ymwneud â phorthladdoedd yn Teeside a Humberside. Yn dilyn seibiant i gwblhau MSc mewn Biogeocemeg Amgylcheddol ym Mhrifysgol Newcastle, dychwelodd Jonathan i Able UK i weithio ar yr Able Marine Energy Park, sef Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol sy'n cynnwys porthladd newydd a ddyluniwyd i wasanaethu'r sector ynni morol gyda chyfleusterau gweithgynhyrchu, allforio a gwasanaethu – gweithiodd Jonathan ar y prosiect hwn nes iddo gael caniatâd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth.

Ymunodd Jonathan â Phorthladd Aberdaugleddau yn 2016 ac mae'r sefyllfa wedi'i alluogi i gymhwyso'i brofiad mewn materion amgylcheddol sy'n gysylltiedig â phorthladdoedd yn fwy eang, ac ymgysylltu â Llywodraeth Cymru fel cynrychiolydd dros sector ehangach porthladdoedd yng Nghymru. Mae'n hyrwyddwr brwdfrydig dros arferion amgylcheddol da mewn diwydiant ac mae'n defnyddio hyn i hyrwyddo agwedd gadarnhaol tuag at rôl reoleiddiol y cwmni.