Coleg Prifysgol Corc

Photo of Kevin Hickey

Dr. Kieran Hickey

Uwch-ddarlithydd Daearyddiaeth a Phennaeth yr Adran Daearyddiaeth a Phennaeth yr Ysgol Amgylchedd Dynol

Prif ddiddordebau Kieran yw stormydd a chorwyntoedd a'r rhyngwyneb hinsawdd-arfordirol, newid hinsoddol, hinsoddeg hanesyddol a thrychinebau tywydd. I'r perwyl hwn mae Kieran wedi bod yn gweithio ar nifer o brojectau ymchwil ar yr hinsawdd, hanes hinsawdd Iwerddon ynghyd â gwaith ymchwil mwy arbenigol ar batrymau newidiol stormydd yr Iwerydd, corwyntoedd a chyfraniad newid hinsoddol at ddigwyddiadau tywydd eithafol.

Mae Kieran yn aml ar y teledu, y radio ac yn y cyfryngau print cenedlaethol, ynghyd â chyfryngau lleol yn trafod ei arbenigedd ar y newid hinsoddol, y tywydd a thrychinebau naturiol yn Iwerddon ac yn rhyngwladol. Mae wedi cyhoeddi dau lyfr ar newid hinsoddol ac Iwerddon, un am fleiddiau, ac wedi golygu llyfr arall ar gorwyntoedd yn ogystal â sawl erthygl mewn cyfnodolion, penodau mewn llyfrau a chyhoeddiadau eraill.

Photo of Cathal O'Mahony

Cathal O’Mahony

Rheolwr Grantiau’r UE

Mae gan Cathal radd o Goleg Prifysgol Caerdydd (B.Sc) a Choleg Prifysgol Dulyn (M.Sc) ac mae’n aelod o dîm gweithrediadau MaREI. Mae Cathal yn gyfrifol am roi cymorth i ymchwilwyr sy’n chwilio am gyllid ar gyfer rhaglenni’r UE, gan gynnwys INTERREG a Horizon 2020, ac ar gyfer rheoli dyfarniadau cyllid ymchwil newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli. Cyn derbyn y rôl hon, roedd Cathal yn gyfrifol am gydlynu grŵp o ymchwilwyr a oedd yn gweithio ar agweddau ar lywodraethu morol ac arfordirol. Roedd ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar reoli a chynllunio morol ac arfordirol; prosesau cyfranogol; addasu’r hinsawdd a defnyddio technolegau arsylwi ar y Ddaear ar gyfer cymwysiadau morol ac arfordirol.

Photo of Fernanda Stori

Dr. Fernanda Terra Stori

Uwch-ymchwilydd ôl-ddoethurol

Mae Fernanda yn eigionegydd sydd â PhD mewn Ecoleg ac Adnoddau Naturiol, ac mae ganddi ddiddordeb ymchwil mewn cynllunio, rheoli a chadwraeth arfordirol-forol. Mae hi wedi bod yn ymchwilio i gymunedau arfordirol sy’n defnyddio cysyniadau Ethnoecoleg ac Ecoleg Ddynol, Rheoli sy’n seiliedig ar Ecosystemau, a Gwytnwch mewn Systemau Ecolegol-gymdeithasol. Mae hi’n Uwch-ymchwilydd ôl-ddoethurol gyda CCAT (Coastal Communities Adapting Together), Canolfan MaREI ar gyfer Ynni Morol ac Adnewyddadwy. Yn ei gwaith ymchwil, mae hi’n edrych ar sut i integreiddio gwybodaeth ecolegol rhanddeiliad â gwybodaeth wyddonol er mwyn deall effeithiau newid yn yr hinsawdd ac i gysylltu prosesau addasu er mwyn datblygu astudiaethau am wytnwch ecolegol-gymdeithasol arfordirol-forol.