Roedd partneriaid Gwyddelig CCAT i fod i deithio i Gymru ar gyfer ein cyfarfod tîm bob chwe mis ond yn anffodus cynhaliwyd y cyfarfod ar-lein oherwydd COVID-19. Rydym yn cael cyfarfodydd ar-lein rheolaidd gan fod ein partneriaid ar wasgar ledled Cymru ac Iwerddon ond fel arfer mae'r cyfarfodydd hyn wedi'u cyfyngu i awr. Felly roedd cynnal 2 ddiwrnod o gyfarfodydd ar-lein yn dir newydd i ni. Gwnaeth ein partneriaid yn Fforwm Arfordir Sir Benfro, Porthladd Aberdaugleddau a Phrifysgol Caerdydd gryn dipyn o gynllunio ar gyfer y digwyddiad a fu’n llwyddiant mawr. Roedd hefyd yn gyfle da i aelodau newydd ein tîm, Chiara Cocco a Saul Crowley, gyfarfod â phawb yn rhithwir.
Dechreuodd Diwrnod 1 gyda gêm ddifyr i dorri’r garw, lle bu'n rhaid i ni dynnu llun o'r person i'n chwith ar y sgrîn yn gyflym. Pa ffordd bynnag y gosodwyd Zoom, gwnaeth pawb dibennu’n tynnu llun o'r un person (Pauline) a berodd chwerthin

Bu’r diwrnod yn llawn cyflwyniadau gan ein chwe grŵp gweithio, a gwnaeth grŵp Cynghori CCAT ymuno â ni ar gyfer y sesiwn hon Vicky BrownPrif Swyddog Gweithredu Cool Planet Dr. Tadhg MacIntyreDarlithydd yn Adran Addysg Gorfforol a Gwyddorau Chwaraeon, Prifysgol Limerick Dr. Stuart CapstickCymrawd Ymchwil, Prifysgol Caerdydd Peter Daviescyn-Gomisiynydd Cymru ac Is-Gadeirydd Comisiwn Datblygu Cynaliadwy’r DU, yw aelodau ein grŵp cynghorol. Rhoddon nhw adborth gwerthfawr ar ein gwaith hyd yn hyn. Bu gweddill y diwrnod yn llawn gweithdai a gwaith grŵp mewn ystafelloedd llai.
Gwnaeth Lauren Blacklaw-Jones o Borth Aberdaugleddau ein tywys ar daith rithwir o Ddoc Penfro, a rhoi’r newyddion i ni am gynlluniau i greu taith rithwir o’r ardal, sydd â chyfoeth o hanes a threftadaeth. Rhoddodd y daith flas i’r cyhoedd ar orffennol, presennol a dyfodol yr ardal, o’r adeg pan roedd yn iard longau frenhinol yn yr 1800au i’r ganolfan weithredol fwyaf yn y byd ar gyfer cychod hedfanyn yr 1940au, a’r cynlluniau ar gyfer bod yn ganolfan ar gyfer ynni morol adnewyddadwy yn y dyfodol.
Ar yr ail ddiwrnod, cawsom gyflwyniadau gan siaradwyr gwadd o brosiect Ardal Forol Doc Penfro fydd yn helpu Doc Penfro i ennill ei phlwyf fel lleoliad o’r radd flaenaf ar gyfer peirianneg forol ac yn ganolfan brofi ar gyfer ynni morol adnewyddadwy. Clywsom gan Energy Kingdom project sydd â chynlluniau ar gyfer datblygu ynni hydrogen yn Aberdaugleddau ac yn olaf gan Ynni Morol Cymru sy’n dod â datblygwyr technoleg, y gadwyn gyflenwi, y byd academaidd a’r sector cyhoeddus ynghyd i sefydlu Cymru fel arweinydd byd-eang ar gyfer cynhyrchu ynni morol cynaliadwy, gan wneud cyfraniad sylweddol i’r economi carbon isel.

Alex Cameron-Smith from Pembrokeshire Coastal Forum got the team to test an interactive, climate change card game which they have developed using the online platform Mural. We had tested this game at our last meeting in Cork and it was great to see how it have evolved since then.

Throughout the 2 days we held a number of other workshops looking at our work plans for the next 6 months, our dissemination plans and future opportunities beyond the life of CCAT. Despite not being able to meet in person it was great to connect with everyone online and learn about how the project is adapting to COVID-19 by moving our initiatives online.