Mae ymchwilydd CCAT, Dr Fernanda Stori hi wedi cynhyrchu astudiaeth fanwl ar gyfer Cyngor Sir Fingal ar effaith newid hinsawdd yn Portrane, Swydd Dulyn, a fydd yn cefnogi'r cyngor a'r preswylwyr i gynllunio ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â lefelau'r môr yn codi ac amlder a dwyster cynyddol stormydd oherwydd newid hinsawdd
Mae'r astudiaeth yn edrych ar esblygiad deddfwriaeth, polisïau a chynlluniau ymaddasu i newid hinsawdd arfordirol ar lefel leol yn Fingal yn ogystal ag ar lefel ranbarthol a chenedlaethol yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae'r adnodd hwn yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr i'r rheini sydd â diddordeb mewn ymaddasu i newid hinsawdd ar hyd arfordir Iwerddon.
Dangosodd yr astudiaeth angen brys i fynd i'r afael â bwlch mewn polisi sy'n ymwneud â rheoli’r arfordir ac ymaddasu i newid hinsawdd yn Iwerddon. Mae'r bwlch hwn wedi gosod heriau i gymunedau arfordirol ac awdurdodau lleol yn Iwerddon wrth ddelio ag effeithiau erydiad arfordirol a llifogydd.
I ddarllen yr adroddiad cliciwch yma
Mae adnodd ar-lein wedi'i greu i gyd-fynd â'r astudiaeth. Mae’r adnodd yn dwyn ynghyd y gwahanol ddeddfwriaethau, polisïau a chynlluniau sy’n ymwneud ag ymaddasu i newid yn yr hinsawdd arfordirol yn Iwerddon ers 1925 mewn fformat hawdd ei gyrchu.
Mae'r adnodd ar-lein yma