Pauline Power

Photo of Pauline Power

Mae Pauline yn Swyddog Ymchwil, Cyfathrebu a TG gyda CCAT (Cymunedau Arfordirol yn Cyd-addasu) yn Ysgol Pensaernïaeth, Cynllunio a Pholisi Amgylcheddol, Coleg Prifysgol Dulyn. Mae ganddi gefndir amrywiol gan gynnwys hamdden morol, ffilm a theledu, addysg i oedolion, twristiaeth a'r sector nid-er-elw. Mae ganddi brofiad helaeth mewn rheoli prosiectau, TG, dylunio cynnwys, dadansoddi anghenion hyfforddiant, gwasanaeth cwsmeriaid, logisteg, rheoli digwyddiadau, gweinyddiaeth, rheoli cyllid a gwirfoddolwyr. Mae wedi cynhyrchu sawl ffilm a rhaglenni teledu a ddarlledwyd ar RTE. Rheolodd raglen addysg i oedolion penigamp ar dechnoleg gwybodaeth, a'r Gwobrau Syrffwyr Arian tra roedd hi'n gweithio gydag Age Action. Mae hi hefyd yn hwyliwr brwd ac wedi hwylio mewn bron iawn bob rhan o'r byd. Mae hi'n frwd dros gadwraeth forol ac wedi astudio eigioneg, gwyddoniaeth forol a hanes morol yn yr Unol Daleithiau