Wedi misoedd o Zoom, cawsom lygedyn o obaith ym mis Mai pan gynigiodd digwyddiad rhithwir CCAT y cyfle i ni ddianc o gaethder y swyddfa a’r dosbarth clo.
Wedi cwblhau’r asesiadau risg, a’r tywydd a’r llanw yn argoeli’n dda, dyma fentro gwneud gwaith maes go iawn, gyda phobl go iawn. Ar ddechrau mis Mehefin oedd hyn, ac roedd staff CCAT, Dr Rhoda Ballinger a Dr Emma McKinley, am arwain cwrs astudio dan adain Prifysgol Caerdydd ar Foryd Hafren, ac arfordir Gwlad yr Haf yn arbennig.

Gwaith maes oedd hyn ar gyfer myfyrwyr Daearyddiaeth Forwrol, gan ganolbwynbtio ar fantoli gweithgareddau o gwmpas yr arfordir a’r angen i warchod byd natur y foryd. Mae’r lle’n nodedig am ei wlyptiroedd pwysig, ac am ei ardaloedd rhynglanw, ynghyd â’i riffiau sabelleria ac adar mudol, pysgod, a llawer o bethau eraill. Ceisiom ystyried rhai o’r herau a roir gan amaethyddiaeth a thwristiaeth ar hyd yr arfordir, o Brean Down hyd at Woodspring Bay. Mae’r arfordir yn cynnwys nodweddion fel tref gwyliau glan-mor traddodiadol Weston Super Mare, a llawer ardal o dir isel a ffrwythlon sy’n perthyn i ffermydd. Cynnwys hefyd ddatblyiadau twristaidd sy’n britho’r arfordir yn Brean a Sand Bay. Y dyddiau hyn mae cymysgedd o dwyni tywod ac amddiffynfeydd caled yn gwarchod yr asedion hyn, a chafodd llawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a’u codi yn dilyn llifogydd ym 1981.
Os edrychir tua’r dyfodol, mae cynlluniau rheoli traethlinau yn awgrymu ystod o bolisïau yn amrywio o ‘dal y llinell’ i ‘ailalinio dan reolaeth’. Tra bod y polisïau hyn yn cael eu hadolygu, mae newidiadau yn sgil codiad yn lefel y môr yn ysbarduno cwestiynau am sut y gellir defnyddio’r arfordir hwn mewn modd cynaladwy. Yn y maes fe ystrion ni’r cwestiynau hyn, gan nodi’r ffordd y mae’r arfordir prysur hwn wedi gorfod ei addasu ei hun i ofynion ‘staycations’. Tybed a fydd y cymunedau yr un mor barod i’w cyfaddasu at newid yn yr hinsawdd? Sylwon ni ar yr holl geir yn parcio ar y traeth, a thunnellau o sbwriel yn cael eu clirio yn rheolaidd o’r traethau hyn. Sylwon ni hefyd ar yr amddiffynfeydd caled sy’n sefyll lle ers talwm bu cadwynau hir o dwyni tywod. Cafwyd trafodaeth ynglyn â llwybr arfordirol Lloegr arfaethedig, sydd o dan ystriaeth ar hyn o bryd, ac sydd yn creu tipyn o benbleth i rai ardaloedd gwylptir isel. Ac o’n safbwynt ni ar ben bryn, Brean Down, ystyrion ni rai cwestiynau mwy tyngedfennol byth, wrth i ni edrych ar draws y dyfroedd hyd at safle Hinkley C – tybed a ellid harneisio egni’r llanw, efallai? Ac ystyried mor ddynamig yw’r foryd hon, hêr sylweddol yw ystyried y gwahanol ddefnyddiau, a graddfeydd amser a gofod, wrth benderfynu sut y gellir ei ddatblygu mewn modd cynaladwy.
Wrth i’r coets dynnu i ffwrdd o lan môr Weston, roedd peth o’r hud a lledrith wedi diflannu: oedd, roedd y profiadau yn y maes, yr holl olygyfeydd, seiniau ac aroglau’r arfordir, heb sôn am y trafodaethau wyneb yn wyneb wedi mynd. Ond erys bron mil o luniau a fideos ar y camera. Digonedd i greu trip rhithwir efallai!
Os dymunir darganfod mwy am yr arfordir hwn a’r materion hyn, cliciwch ar y safleodd gwe isod:
- Phartneriaeth Aber Afon Hafren
- Association of Severn Estuary Relevant Authorities
- Somerset’s Living Coast
Fel y trafodwyd uchod, mae Aber Afon Hafren yn amgylchedd sy'n newid yn barhaus ac yn hynod ddeinamig. Mae Tîm CCAT Prifysgol Caerdydd yn gweithio'n agos gyda Phartneriaeth Aber Afon Hafren a sefydlwyd ym 1995 fel menter annibynnol, a gynhelir gan Brifysgol Caerdydd, i weithio gyda rhanddeiliaid lleol i hyrwyddo dull cynaliadwy o gynllunio, rheoli a datblygu'r aber i bawb sy'n byw ac yn gweithio o amgylch yr aber, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Er bod cyfyngiadau COVID-19 yn 2020 wedi arwain at oedi Pen-blwydd y Bartneriaeth yn 25 oed,th ym mis Mai 2021, roedd y tîm yn gyffrous i groesawu siaradwyr a mynychwyr o bob rhan o'r Aber i'w Fforwm Rhithwir Aber Afon Hafren 2021, gan ddathlu gorffennol, presennol a dyfodol Partneriaeth Aber Afon Hafren (SEP). Wedi'i ysbrydoli'n uniongyrchol gan fformat a strwythur Cymunedau Arfordirol yn Ymaddasu Ynghyd (CCAT) i Gyfnewid Gwybodaeth ac Arfer Gorau ar Draws Ffiniau a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2020, gwahoddodd Fforwm Aber Hafren 2021 siaradwyr i fyfyrio ar eu profiad eu hunain dros 25 mlynedd SEP, gan gwmpasu nifer o themâu. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Newid yn yr hinsawdd, ymaddasu a'r gymuned
- Cynllunio, Llywodraethu a Pherygl Llifogydd
- Aber Afon Hafren: Tirwedd sy'n Newid
Agorodd Emma McKinley o CCAT y digwyddiad, ac ynghyd â chadeiryddion sesiynau eraill, tywysodd y mynychwyr trwy'r cyflwyniad a sesiynau trafod rhagorol bob dydd. Yn hanfodol, archwiliodd y digwyddiad ystod o themâu trwy raglen siaradwyr ysbrydoledig ac ysgogol, gan gynnwys pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth a chydweithio, buddion gweithio gyda chymunedau a rhanddeiliaid a rôl bwysig gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned, yr heriau (a'r cyfleoedd!) o weithio ar draws ffiniau, gwerth rheolaeth addasol a hyblyg sy'n caniatáu cymryd camau ymatebol wrth i'r Aber barhau i newid, ac yn olaf, yr angen i weithredu ar frys mewn ymateb i'r argyfyngau ecolegol a hinsawdd. Mae mwy o wybodaeth am y Fforwm a'r cyflwyniadau ar Wefan Partneriaeth Aber Afon Hafren..
Yn olaf ond nid y lleiaf, mae tîm SEP yn gyffrous i rannu ffilm ddiweddar a gomisiynwyd i ddathlu 25 mlynedd o Bartneriaeth Aber Afon Hafren – gallwch ddod o hyd iddi yma ac mae croeso i chi ei rhannu'n eang!