Transition Bro Gwaun Abergwaun ydy’r lle, diffyg amser mam i’w fab ydy’r golygfa. Rwy’n ei weld e’n chwilio am y geiriau, ei angen hi i ‘neud y golchi, ac dwi’n teimlo eu rhwystredigaeth.
Rydym yn dechrau’r Gweithdy Sgyrsiau Newid yr Hinsawdd wedi annog i ffeindio awgrymiadau ac atebion creadigol i’w rhwystr cyfarthrubu. Pam does ganddo fe ddim y geiriau? Pam does ganddo hi ddim yr amser? Trwy cymryd rhan a deallt eu safbwyntiau, mae’r cynilleidfa yn rhoi i’r ddau ffarti y geiriau a’r amser i ddeallt ei gilydd, y cynhwysion am cyfarthrebu.
Does ddim amser i gwastraffu, rydym ni yn dwylo hyblyg y trefnwyr. Gyda’n meddyliau ni newydd eu hymarfer ac ar ôl egwyl fach, rydym ymlaen at y gweithdy nesa’r dydd yma sy’n procio ein meddyliau.
Pynciau wedi hunan-detholi a’r rhyddid i symyd rhyngddyn nhw – os gwelwch yn dda! Rydw i’n dechrau gyda “syt i ymgysylltu y rhain sy’ wedi ymddieithrio”? Beth i wneud pan mae rhywun yn dweud “dyw e ddim byd i ‘neud gyda fi”? Dwi’n cofio yn ystod rôl gwastraff ac ailgylchu gynt, y ffordd i ymgysylltu oedd i ffeidio eu cysylltiad unigol i’r pwnc. Trethi cyngor, yr amgylchedd, diddordebau plant, cwyno, yr hen ddyddiau… Dwi’n meddwl am y rhinweddau cymdeithasol o ymgysylltu’r cymuned, y pethau dwi’n hoffi amdano a pham dwi o hyd yn dod yn ôl at y gwaith yma. Dwi’n meddwl am y pobl dwi wedi cwrdd. Yr ateb o hyd ydi pobl.
Ni’n trafod tueddiad grwpiau ac unigolion tuag at amheuaeth ac ofn, a syt y mae ‘na bŵer mewn profiadau a rennir. Ni’n atgofio’r pwysigrwydd o tir cyffredin, fel ffermwyr sy’n perthyn i XR hefyd. Mae’n bosib i perthyn i’r ddau grwp. Mae’n bosic gefnogi’r ddau safbwynt.
Yn ystod y sessiwn olaf, dwi’n clywed y gweithdu nesa’n sôn am pŵer hiwmor i newid barnau sefydlog. I ddweud y gwir, effeithiau sain a chwerthin dwi’n clywed. Tra rydym yn trafod rhestrau wiro am ddigwyddiadau, dwi’n syllu o amgylch y ‘stafell at rheini yma, cymysgedd o dynion a menywod o bob oedran. Llawer dwi’n nabod, llawer o cysylltiadau newydd. Mae’n bleser i fod rhwng pobl eraill yn trafod y pwnc yma, ond pwnc sy’ dal i weld fel arbenigol rhwng gymaint o pobl eraill, er gwaethaf y tystiolaeth.
Ar ddiwedd y dydd mae gen i lawer o cysylltiadau newydd yn fy llyfr nodiadau, mae fy mhen yn llawn syniadau ac mae gen i teimlad o gyflawniad a chymuned. Does yna ddim ‘ni’ a ‘nhw’ ddim fwy, dim on cymysgedd o diddordebau ac angerdd, cymysgedd o cysylltiadau a pynciau ydyn ni. Mae’n hawdd teimlo wedi llethu, ond y mae gennym ni yr atebion yn barod. Yn unedig yn ein unigrywrwydd, dim on cwestiwn o’i wneud i ddigwydd ydyw.